Uwch Swyddog Cefnogi Llywodraethwyr

  • Barry
  • Vale Of Glamorgan Council

Amdanom ni

Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Cefnogi Llywodraethwyr i gyfrannu at effeithiolrwydd cyffredinol yr Uned Cefnogi Llywodraethwyr (UCLl) o fewn Adran Strategaeth ac Adnoddau y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau.

Mae'r UCLl yn darparu cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr i'w galluogi i gyflawni eu rôl o ran gwella ysgolion drwy herio a chefnogi ysgolion i berfformio'n dda.

Er bod llywodraethwyr yn wirfoddolwyr, mae ganddynt ystod eang o gyfrifoldebau cyfreithiol yn amrywio o benodi Penaethiaid a dirprwy benaethiaid i ddelio â diswyddiadau, materion disgyblu staff a chwynion yn ogystal â dwyn yr ysgol i gyfrif o ran safonau perfformiad felly mae angen yr offer arnynt i gyflawni'r rôl yn effeithiol.

Ynglŷn â'r rôl Gradd 8

Llawn amser - 37 awr

Gwaith o gartref/Swyddfeydd Dinesig

Yn cynnwys secondiad deiliad y swydd

Disgrifiad : Mae hon yn rôl ddiddorol a heriol ac mae'r dyletswyddau'n eang ac amrywiol gan gynnwys cefnogi datblygiad a darpariaeth hyfforddiant llywodraethwyr, rheoli prosesau recriwtio llywodraethwyr, datblygu cronfa ddata a gwefan y llywodraethwyr, rheoli cwynion am ysgolion, rheoli Uwch Benodiadau (Swyddi Pennaeth a Dirprwy Bennaeth) yn ogystal â thasgau eraill.

Amdanat ti

Dylech fod â phrofiad sylweddol mewn addysg, rheoli busnes neu ddisgyblaeth gysylltiedig, gyda hanes profedig. Dylech fod â’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig gyda phobl ar bob lefel, ac yn gallu cyfleu gwybodaeth yn eglur i gynulleidfaoedd amrywiol. Dylech fod â’r gallu i ddadansoddi a gwerthuso gwybodaeth a sefyllfaoedd cymhleth a gwneud penderfyniadau effeithiol Dylech hefyd allu ffurfio a chynnal perthnasoedd gwaith proffesiynol rhagorol ac yn gallu delio'n effeithiol â materion sensitif/cyfrinachol a rheoli sefyllfaoedd o wrthdaro. Mae profiad o weithio gyda Phenaethiaid, trefnu a chyflwyno hyfforddiant a gwybodaeth am Gyfraith Addysg yn ddymunol ond nid yn hanfodol gan y rhoddir hyfforddiant llawn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Job Reference: LS00251