Swyddog Technegol Tgch (Rhwydweithiau a Chyfathrebu)

  • barry

Amdanom ni

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm arloesol a phrofiadol o weithwyr technegol proffesiynol sy'n gweinyddu a chynnal seilwaith rhwydweithiau a chyfathrebu TGCh hanfodol y Cyngor.

Byddwch yn cynorthwyo Rheolwr y Tîm i gefnogi a gweinyddu seilwaith rhwydwaith a llais y Cyngor

Ynglŷn â'r rôl

Manylion Cyflog: Gradd 7 £28,371- £32,020 Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr, dydd Llun i ddydd Gwener Prif Weithle: Y Swyddfeydd Dinesig, Y Barri

Disgrifiad : Byddwch yn cefnogi ac yn cynnal, fel rhan o dîm, seilwaith WAN, LAN y Cyngor ar draws y Cyngor. Bydd hyn yn cynnwys switshis, rheolwyr di-wifr, llwybryddion, waliau tân a thechnolegau VoIP.

Bydd gofyn i chi deithio'n rheolaidd i wahanol safleoedd ledled y Sir gan gynnwys ysgolion ac adeiladau'r Cyngor.

Byddwch hefyd yn cael cyfle o bryd i'w gilydd i weithio gartref yn dibynnu ar ofynion y gwasanaeth.

Amdanat ti

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Yn llythrennog o ran TG a meddu ar brofiad o ddefnyddio systemau

gweithredu Microsoft.

  • Sgiliau cyflwyno
  • Gallu cyfathrebu’n glir ac effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Sgiliau datrys problemau da.
  • Sgiliau rhyngbersonol da.
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm.
  • O leiaf DCU/TGU neu gyfatebol gydag 1 flwyddyn o brofiad ôl
  • gymhwyso mewn maes perthnasol neu 2 flynedd profiad perthnasol

mewn maes cysylltiedig

  • Gweithio fel aelod o dîm
  • Hyblyg
  • Uchelgeisiol
  • Hyderus i weithio gyda chydweithwyr ar bob lefel yn y Cyngor
  • Diddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus
  • Hunangymhelliant
  • Meddu ar drwydded yrru lawn y DU.
  • Yn meddu ar defnydd o gar ar gyfer teithio fel rhan o'r gwaith
  • Yn gallu gweithio gartref ar gysylltiad band eang addas.

Gwybodaeth am:

  • Waliau tân, switshis, systemau gweithredu rheolwyr di-wifr
  • VOIP/Cyfathrebu unol
  • Cyfeiriadu IP
  • Technolegau a chaledwedd LAN a WAN
  • Hidlo gwe
  • Gweithrediadau Canolfan Ddata
  • Ceblau strwythuredig

Gwybodaeth Ychwanegol Oes angen gwiriad gan y GDG: Gwell CDG Plant

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Richard Hortop 01446 709859

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: RES00316