Swyddog Gorfodi Trwyddedu

  • Barry
  • Vale Of Glamorgan Council

Amdanom ni

Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn gweithio gyda’r tri chyngor partner - Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg dan un strwythur rheoli unigol. Mae'r Tîm Trwyddedu ym mhob Cyngor yn gyfrifol am brosesu ceisiadau am ystod eang o drwyddedau sy'n ofynnol gan fusnesau, unig fasnachwyr a'r sector gwirfoddol. Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am ddarparu addysg a chyngor, sicrhau cydymffurfiaeth ag amodau'r drwydded ac ymchwilio i gwynion ac achosion o dorri amodau trwydded. Mae’r rôl hon wedi’i lleoli’n bennaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn cefnogi Awdurdod Trwyddedu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ynglŷn â'r rôl Manylion Cyflog: Gradd 7 - PCG 20 - 25 £28,371-£32,020

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos 5 diwrnod yr wythnos. Mae gweithio tu hwnt i oriau swyddfa arferol fel y bo’n berthnasol yn rhan o’r swydd.

Prif Weithle: Swyddfeydd Dinesig Pen-y-bont ar Ogwr, ond gallai fod angen gweithio mewn ardaloedd eraill o fewn y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (Caerdydd, Pen-y-bont a Bro Morgannwg) hefyd.

Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Parhaol

Disgrifiad: Cynnal ystod eang o ddyletswyddau Gorfodi Trwyddedu gan gynnwys ymchwilio i gwynion ac achosion o dorri amodau trwydded. Y gallu i gynnal ymchwiliadau ac erlyniadau cymhleth. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys prosesu ceisiadau trwyddedu cymhleth a darparu addysg a chyngor i fusnesau.

Amdanat ti

  • Profiad o gasglu tystiolaeth a pharatoi ffeiliau achos yn arwain at orfodi effeithiol
  • Gwybodaeth ynghylch darpariaethau Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 a phrosesau casglu tystiolaeth yn arwain at erlyniad
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd Trwyddedu gan gynnwys prosesu a phenderfynu ar geisiadau trwydded
  • Y gallu i weithio gydag ond ychydig o oruchwyliaeth ac i flaenoriaethu, trefnu a chwblhau gwaith i derfynau amser caeth
  • Yn gallu gweithio fel unigolyn ac fel aelod o dîm amlddisgyblaethol
  • Ymrwymedig i safon uchel o wasanaeth cwsmeriaid

Gwybodaeth Ychwanegol Oes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Dim

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Ilaria Agostini-Green 07967821245

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00415