Amdanom ni
Mae Adran Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio rhoi unigolion wrth wraidd eu gofal eu hunain, ni waeth pam mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Rydym am gynnig y cymorth cywir i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ar yr adeg iawn, i'w helpu i fod yn hapus ac yn ddiogel, ac i gael y cyfleoedd gorau mewn bywyd.
Gall ymarferwyr wneud gwir wahaniaeth ym Mro Morgannwg. Rydym yn ddarbodus ac yn wydn, yn ymrwymedig i ddatblygu ac yn awyddus i groesawu syniadau newydd. Gan adeiladu ar gryfderau amlwg, cewch eich cefnogi gan dimau galluog ac ymrwymedig sydd â gallu amlwg i ddarparu gwasanaeth da.
Mae gan bob un o'n Swyddogion Gofal Cymdeithasol fynediad at hyfforddiant rhagorol, gan gynnwys y cyfle i ystyried hyfforddiant i ddod yn Weithwyr Cymdeithasol.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Cyflog: Gradd 6, PCG 14-19 (£25,409 - £27,852)
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr, dydd Llun i ddydd Gwener
Prif Weithle: Canolfan Menter Gymunedol
Disgrifiad : Bydd y rôl yn cynnwys galluogi rhieni, gofalwyr a gofalwyr ifanc i ganolbwyntio ar eu hanghenion eu hunain a chael mynediad at ffynonellau gwybodaeth, cyngor a chymorth, fel sy'n briodol a darparu gwasanaeth uniongyrchol i ofalwyr ifanc a rheini/gofalwyr yn unol â deddfwriaeth, canllawiau, rheoliadau a safonau cenedlaethol perthnasol.
Bydd disgwyl i chi gynnig gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau cyfeirio i ofalwyr di-dâl a chynnal asesiadau o anghenion gofalwyr.
Amdanat ti
Bydd angen y canlynol arnoch: Profiad
Gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd
Gwybodaeth
***Dealltwriaeth o rôl gofalwr di-dâl a'i anghenion cymorth
Egwyddorion Deddf Plant 1989
Ymwybyddiaeth o amddiffyn plant ac asesu risg
Datblygiad plant
Gwahanol fathau o ymyriadau gwaith cymdeithasol
Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n ymwneud â phlant ag anghenion cymhleth.
Egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
* Sgiliau a rhinweddau
***Gallu cyfathrebu’n effeithiol ac yn sensitif ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Gallu cynllunio gwaith a gosod blaenoriaethau.
Gallu coladu a gwerthuso gwybodaeth.
Gallu negodi a chydgysylltu ag unigolion a grwpiau/asiantaethau.
Gallu gweithio fel aelod o dîm.
Gallu gweithio dan bwysau a meddu ar agwedd hyblyg at waith.
Gallu gweithredu systemau rheoli gwaith achos electronig.
* Cymwysterau a hyfforddiant
Cymhwyster perthnasol ar lefel 2 neu uwch (gan gynnwys ond nid dim ond y canlynol: NVQ, TGAU, SARh, BTEC, City & Guilds).
Gwybodaeth Ychwanegol A oes angen gwiriad gan y GDG: Manwl a Rhestr Wahardd
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Gareth Powell, Rheolwr Cymorth Cynnar ar 01446 729640
Gweler y disgrifiad swydd/fanyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.
Job Reference: SS00574