Swyddog Datblygu Addysg- Dysgu Cymraeg y Fro

  • Barry
  • Vale Of Glamorgan Council

Amdanom ni Mae Dysgu Cymraeg y Fro yn darparu rhaglen lawn o gyrsiau Cymraeg i oedolion ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r tîm yn rhan o’r adran Dysgu Oedolion yn y Gymuned sy’n gwasanaethu oedolion ledled Bro Morgannwg. O ganlyniad i benodiad newydd y deiliad presennol, rydym yn chwilio am Swyddog Datblygu Addysg newydd i reoli’r ddarpariaeth a thîm bach o diwtoriaid ymroddgar sy’n rhoi anghenion y dysgwyr wrth galon pob gweithred.

Ynglŷn â'r rôl Pay Details: JNC Youth & Community Pwynt 23-26 Hours of Work / Working Pattern: 37 awr yr wythnos (Llawn amser) Main Place of Work: Canolfan Ddysgu Cymunedol Palmerston, y Barri CF63 2NT Temporary Reason: Cytundeb tair blynedd yn y lle cyntaf

Disgrifiad : Yn atebol i Reolwr Diwylliant ac Addysg Gymunedol, bydd y Swyddog Datblygu Addysg

  • Dysgu Cymraeg yn cyflawni rôl allweddol, yn gyfrifol am:

  • Rheoli darpariaeth Dysgu Cymraeg a Chymraeg Gwaith

  • Rheoli tîm o diwtoriaid a staff gweinyddol

  • Cynnal ansawdd y ddarpariaeth i safonau Estyn

  • Cyllid, data a mesurau perfformiad

  • Cynllunio a darparu rhaglen gynhwysfawr o ddysgu

  • Hyrwyddo’r iaith Gymraeg a chyfleoedd dysgu i oedolion

Amdanat ti

  • Sgiliau iaith ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • Profiad o lwyddiant mewn rol addysgiadol
  • Sgiliau rhagorol mewn trefnu, rheoli amser, cyflwyno ac hyfforddi
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun
  • Gradd Anrhydedd a chymhwyster Addysgu neu Hyfforddiant
  • Ystod eang o sgiliau digidol a thechnoleg chyfathrebu

Gwybodaeth Ychwanegol DBS Check Required: Dim

Please see attached job description / person specification for further information.

Job Reference: LS00177