Prif Gynllunydd - Polisi

  • Barry
  • Vale Of Glamorgan Council

Amdanom ni Rydym yn chwilio am gynllunydd brwdfrydig a gwybodus i ymuno â'n tîm cynllunio fel y Prif Gynllunydd Polisi. Mae Bro Morgannwg yn cynnig amrywiaeth gyffrous o waith cynllunio mewn ardal amrywiol sy'n cynnwys arfordir a chefn gwlad hardd mewn lle deniadol i fyw a gweithio ynddo gyda chysylltiadau cymdeithasol ac economaidd cryf â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ehangach.

Rydym yn chwilio am gynllunydd gweithgar ac ymroddedig a fydd yn rhoi o'u gorau ac yn gyfnewid am hynny rydym yn cynnig gweithio hyblyg gyda chymysgedd o waith swyddfa a chartref, cyflog hael ac amgylchedd gwaith gwych gyda strwythur rheoli cefnogol sy'n annog gwaith annibynnol ac yn meithrin talent.

Ynglŷn â'r rôl Manylion Tâl: Gradd 11 (PCG 40-43) £44,624 -£47,665y flwyddyn

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos (Llun-Gwener)

Prif Weithle: Swyddfa’r Dociau /Gweithio gartref

Rheswm dros gynnig swydd dros dro: Dd/B

Disgrifiad : Arwain y tîm Polisi Cynllunio a pharatoi'r Cynllun Datblygu Lleol.

Amdanat ti Bydd angen y canlynol arnoch:

  • O leiaf 5 mlynedd o brofiad perthnasol wedi cymhwyso, 2 o’r rheiny ar lefel uwch yn y sector cyhoeddus a/neu breifat o fewn y diwydiant datblygu neu ddisgyblaeth berthnasol i gynllunio.
  • Profiad blaenorol a gwybodaeth o’r polisi cynllunio.
  • Profiad o gyflwyno tystiolaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig parthed materion cynllunio (e.e. cyflwyniad i’r pwyllgorau).
  • Profiad o waith achos cymhleth.
  • Gwybodaeth fanwl ar bob agwedd ar y drefn gynllunio yng Nghymru.
  • Y gallu i weithio gyda chynghorwyr, aelodau’r cyhoedd yn ogystal â sefydliadau cyhoeddus/preifat.
  • Sgiliau cyfathrebu a negodi rhagorol.
  • Gallu gweithio i derfynau amser cytunedig a dan bwysau.
  • Sgiliau trefnu da
  • Y gallu i reoli llwyth gwaith mawr a rheoli llwyth gwaith swyddogion eraill.
  • Y gallu i gynnal a chymell swyddogion proffesiynol eraill
  • Addysg hyd lefel gradd mewn pwnc perthnasol
  • Cymhwyster ôl-radd cynllunio perthnasol.
  • Cymwys i fod yn Aelod o’r RTPI.
  • Ymrwymedig i ddarparu lefelau uchel o wasanaeth cwsmeriaid
  • Gallu gweithio ar eich pen eich hun neu fel aelod o dîm.
  • Ymrwymiad i ganlyniadau o ansawdd da yn deillio o’r broses polisi cynllunio.
  • Y gallu i ddelio â phobl mewn sefyllfaoedd anodd posib.
  • Gallu i yrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo'n briodol.
  • Yn gallu defnyddio cyfrifiaduron a defnyddio cyfrifiadur ar gyfer creu llythyrau ac adroddiadau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Angen Gwiriad DBS: Dim

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Ian Robinson 01446 704777

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: RES00273