Gweithiwr Cymorth Ymddygiad - Ysgol y Deri

  • barry

Amdanom ni

Mae Derw Newydd yn cefnogi dysgwyr 3-16 oed sydd ag anawsterau iechyd cymdeithasol, emosiynol a/neu feddyliol. Mae Derw Newydd yn rhan o Ysgol Arbennig Ysgol y Deri. Yn wreiddiol, bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn Fferm Ymddiriedolaeth Amelia a Cowbridge Court House, sy'n symud i ddarpariaeth bwrpasol yn y Barri.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm gwych. Rydyn ni'n credu na ddylai unrhyw un golli ysgol. Rydym yn chwilio am rywun sydd wir eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc; rhywun sy'n fodlon bod y gwahaniaeth. Rhywun sydd eisiau helpu ein myfyrwyr i gyflawni eu potensial trwy roi cyfle iddynt newid; rhywun sy'n gallu helpu ein disgyblion i ymgysylltu a mwynhau profiadau cadarnhaol bywyd.

Am y Rôl Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): YYD/SW

Manylion am gyflog: Gradd 7, £28,371- £32020+ y.f. pro rata + Lwfans AAA

Diwrnodau / Oriau Gwaith: 37 awr yn ystod y tymor yn unig

Parhaol

Disgrifiad : Dymuna'r corff llywodraethol benodi gweithiwr cymorth ymddygiad deinamig, gofalgar ac egnïol i ymuno â'n tîm anhygoel. O dan gyfarwyddyd Pennaeth Ysgol Y Deri, bydd deiliad y swydd yn rhoi cyngor a chefnogaeth arbenigol i ysgolion er mwyn sicrhau bod anghenion corfforol, cymdeithasol ac emosiynol y bobl ifanc yn cael eu diwallu'n effeithiol.

Bydd deiliad y swydd yn aelod gweithgar o ddarpariaethau ysgol y deri yn gweithio ar draws lleoliadau'r Fro ac yn darparu dulliau atal a chymorth cynnar cynradd yn ogystal â dangos sut i weithio'n effeithiol â phobl ifanc. Mae'r rôl yn cynnwys cofnodi, gwerthuso a myfyrio ar bob agwedd ar ymddygiad myfyrwyr gydag adborth i Derw Newydd.

Bydd yr ymgeisydd yn gallu ail-ysgogi myfyrwyr a'u cefnogi wrth bontio i'r ysgol ac allan o'r ysgol. Bydd yn rhoi cymorth, arweiniad a hyfforddiant ymarferol sy’n ymwneud â rheoli ymddygiad a strategaethau cysylltiedig i gefnogi dysgu myfyrwyr. Fel ysgol mae’r ffocws ar newid ysbrydoledig o fewn ein disgyblion i sicrhau eu dyfodol llewyrchus.

Amdanat ti

  • Amdanat ti
  • Byddai’r swydd hon yn addas i rywun sy’n hoffi gweithio gyda phlant a phobl ifanc, rhywun sydd wrth ei fodd yn rhannu gwybodaeth ac yn eu cefnogi i ffynnu.
  • Rhaid i’r ymgeisydd fod â’r gallu i sefydlu a meithrin perthnasau priodol ac effeithiol gyda phlant a phobl ifanc. Mae gofyn iddo fod yn ddiymhongar, ond eto'n hyderus, yn frwdfrydig ac yn deall yr angen am ffiniau.
  • Bydd gan ddeiliad y swydd hanes cryf iawn o weithio'n llwyddiannus gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion iechyd cymdeithasol, emosiynol a meddyliol difrifol.
  • Rydym yn chwilio am rywun sydd wir eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc; rhywun sy'n fodlon bod y gwahaniaeth.
  • Rydym yn chwilio am rywun sy'n cydnabod pwysigrwydd cefnogaeth uchel a her uchel. Bydd ffocws ar chwalu rhwystrau sy'n llesteirio mynediad at ddysgu.
  • Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd gefnogi myfyrwyr i ddatblygu strategaethau ymdopi a meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol. Y rhinweddau sydd eu hangen yw'r gallu i ddeall eich cyflwr emosiynol eich hun / rheoleiddio personol a bod yn bwyllog dan bwysau. Mae sgiliau gwrando da yn hanfodol. Dyma gyfle cyffrous i'r ymgeiswyr cywir ymuno ag ysgol lwyddiannus sy'n ehangu'n gyflym.
  • Bydd gofyn i chi gael GDG manwl ar gyfer Plant ac Oedolion ar gyfer y swyddi hyn.

Oes angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd? : Manwl

Sut i wneud cais

Job Reference: SCH00473